Cynulliad Cenedlaethol Cymru

 Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

Grŵp Trawsbleidiol y Cynulliad ar Gwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol

Dydd Mawrth 13/01/2015

Ystafell Giniawa 3, Tŷ Hywel
Caerdydd CF99 1NA

12.30 – 13.15

 

Aelodau'r Cynulliad yn bresennol

Mick Antoniw

John Griffiths

Yr Ysgrifenyddiaeth

Alex Bird (Cadeirydd, Co-operatives and Mutuals Wales)

Arsylwi

Jayne Howard

 

Mick Antoniw AC (Cadeirydd) agorodd y cyfarfod am 12.30.

Ail-benodwyd aelodau'r grŵp, Mick Antoniw AC, Mark Isherwood AC, William Powell AC a Simon Thomas AC, ar gyfer y flwyddyn 2014-15.

Ail-benodwyd Mick Antoniw AC yn Gadeirydd y grŵp.

Ail-benodwyd Alex Bird o Co-operatives and Mutuals Wales yn ysgrifenyddiaeth ar gyfer y flwyddyn 2014-15.

Cyflwynwyd yr Adroddiad Blynyddol a'r Cyfrifon a'u cymeradwyo.

Cafwyd trafodaeth ar gyfarfodydd posibl o'r grŵp yn y dyfodol.

Awgrymwyd y pynciau isod. Cawsant eu blaenoriaethu fel a ganlyn:-

1.   Cymdeithasau rhandiroedd – siaradwr o'r National Society of Allotment and Leisure Gardeners

2.   Cwmnïau cydweithredol ynni gwyrdd yn gweithio gyda'r Llywodraeth - David Saunders, Cadeirydd Bristol Power Co-operative, a Bill Edrich, Cyfarwyddwr Ynni Masnachol, Cyngor Dinas Bryste

3.   Perchnogaeth gymunedol a throsglwyddo asedau - Robin Andrew (Pennaeth Gwasanaeth Cynorthwyol, Lleoliaeth a Datganoli, Cyngor Cernyw)

Gofynnwyd i Alex Bird geisio trefnu sesiynau gyda'r siaradwyr uchod.

Cytunwyd ar y dyddiadau a ganlyn ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol:-

·         24 Chwefror, Ystafell y Cyfryngau, 12.30

·         19 Mawrth, Ystafell y Cyfryngau, 12.30

Nodwyd bod cyfarfod ar y cyd eisoes wedi'i drefnu â'r Grŵp Trawsbleidiol ar Dai:-

·         28 Ionawr, Ystafell Gynadledda 21, 12.00. Cwmnïau cydweithredol tai yng Nghymru - David Palmer, Canolfan Cydweithredol Cymru - cyfarfod ar y cyd â'r Grŵp Trawsbleidiol ar Dai.

 

Gan nad oedd unrhyw fater arall, daeth y cyfarfod i ben am 13.15.